1 Samuel 14

Cynllun mentrus Jonathan

1Un diwrnod dyma Jonathan, mab Saul, yn dweud wrth y gwas oedd yn cario ei arfau, “Tyrd, gad i ni groesi drosodd i wersyll y Philistiaid.” Ond ddwedodd e ddim am y peth wrth ei dad.

2Roedd Saul yn eistedd o dan y goeden pomgranadau sydd wrth ymyl Migron ar gyrion Gibea. Roedd tua chwe chant o ddynion gydag e, 3ac Achïa oedd yn cario'r effod. (Roedd Achïa yn fab i Achitwf brawd Ichabod a mab Phineas fab Eli oedd yn arfer bod yn offeiriad yn Seilo.) Doedd neb o'r fyddin yn gwybod fod Jonathan wedi mynd.

4Roedd clogwyni uchel bob ochr i'r bwlch roedd Jonathan yn anelu ato i fynd at wersyll y Philistiaid. Enwau'r clogwyni oedd Botsets a Senne. 5Roedd un i'r gogledd ar ochr Michmas, a'r llall i'r de ar ochr Geba.

6Dyma Jonathan yn dweud wrth y gwas oedd yn cario ei arfau, “Tyrd, gad i ni fynd draw i wersyll y paganiaid acw. Falle bydd yr Arglwydd yn ein helpu ni. Mae'r un mor hawdd iddo achub hefo criw bach ag ydy hi gyda byddin fawr.” 7A dyma'i was yn ateb, “Gwna beth bynnag wyt ti eisiau. Dos amdani. Bydda i gyda ti bob cam.”

8Meddai Jonathan, “Dyma be wnawn ni. Awn ni drosodd at y dynion a gadael iddyn nhw ein gweld ni. 9Os dwedan nhw ‘Arhoswch yna nes i ni ddod atoch chi,’ gwnawn ni aros lle rydyn ni. 10Ond os dwedan nhw, ‘Dewch i fyny yma,’ awn ni atyn nhw. Bydd hynny'n arwydd fod yr Arglwydd yn eu rhoi nhw yn ein gafael ni.”

11Felly dyma'r ddau'n mynd, a dangos eu hunain i fyddin y Philistiaid. A dyma'r rheiny yn dweud, “Edrychwch! Mae'r Hebreaid yn dod allan o'r tyllau lle maen nhw wedi bod yn cuddio!” 12Gwaeddodd y dynion oedd yn gwylio ar Jonathan a'i gludwr arfau, “Dewch i fyny yma i ni ddysgu gwers i chi!” A dyma Jonathan yn dweud wrth ei was, “Dilyn fi, achos mae'r Arglwydd yn mynd i roi buddugoliaeth i Israel.”

13Dyma Jonathan yn dringo i fyny ar ei bedwar, a'r gwas oedd yn cario'i arfau ar ei ôl. Roedd Jonathan yn taro'r gwylwyr i lawr, a'i was yn ei ddilyn a'i lladd nhw. 14Yn yr ymosodiad cyntaf yma, lladdodd Jonathan a'i was tua dau ddeg o ddynion mewn llai na can llath.

15Yna roedd yna ddaeargryn, a dyma banig llwyr yn dod dros fyddin y Philistiaid – yn y gwersyll, allan ar y maes, y fintai i gyd a'r grwpiau oedd wedi mynd allan i ymosod ar Israel. Duw oedd wedi achosi'r panig yma.

16Roedd gan Saul wylwyr yn Gibea yn Benjamin, a dyma nhw'n gweld milwyr y Philistiaid yn dyrfa yn diflannu i bob cyfeiriad.

17“Galwch y milwyr at ei gilydd i weld pwy sydd ar goll,” meddai Saul. A pan wnaethon nhw hynny dyma nhw'n ffeindio fod Jonathan a'r gwas oedd yn cario'i arfau ddim yno. 18Felly dyma Saul yn dweud wrth Achïa'r offeiriad, “Tyrd â'r Arch yma.” (Roedd Arch Duw allan gyda byddin Israel ar y pryd.) 19Ond tra roedd Saul yn siarad â'r offeiriad, roedd y panig yng ngwersyll y Philistiaid yn mynd o ddrwg i waeth. Felly dyma Saul yn dweud wrtho, “Anghofia hi.” 20A dyma Saul yn galw ei fyddin at ei gilydd a mynd allan i'r frwydr.

Roedd byddin y Philistiaid mewn anhrefn llwyr. Dyna lle roedden nhw yn lladd ei gilydd! 21Roedd yr Hebreaid hynny oedd wedi ymuno â byddin y Philistiaid cyn hyn wedi troi i ymladd ar ochr yr Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan. 22Ac wedyn, pan glywodd yr Israeliaid oedd wedi bod yn cuddio ym mryniau Effraim fod y Philistiaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn mynd ar eu holau. 23A dyma'r brwydro yn lledu tu draw i Beth-afen.

Yr Arglwydd wnaeth achub Israel y diwrnod hwnnw.

Saul yn tyngu llw ffôl

24Ond roedd byddin Israel wedi llwyr ymlâdd y diwrnod hwnnw, am fod Saul wedi gwneud iddyn nhw dyngu llw a dweud, “Melltith ar unrhyw un fydd yn bwyta unrhyw beth cyn iddi nosi – cyn i mi ddial ar fy ngelynion.” Felly doedd neb wedi bwyta o gwbl.

25Dyma'r fyddin i gyd yn mynd i goedwig, ac roedd diliau mêl ar lawr ym mhob man. Er eu bod nhw'n gweld y mêl yn diferu, wnaeth neb gymryd dim am fod arnyn nhw ofn y felltith. 27Ond doedd Jonathan ddim wedi clywed ei dad yn gwneud i bawb dyngu'r llw. Felly dyma fe'n estyn blaen ei ffon i'r mêl, ac yna ei rhoi yn ei geg. Ac roedd wedi ei adfywio'n llwyr.
14:27 roedd wedi ei adfywio'n llwyr Hebraeg, “goleuodd ei lygaid”
28Dyma un o'r dynion yn dweud wrtho, “Gwnaeth dy dad i'r milwyr dyngu llw, a dweud, ‘Melltith ar unrhyw un sy'n bwyta unrhyw fwyd heddiw.’ Dyna pam mae'r dynion i gyd yn teimlo mor wan.” 29A dyma Jonathan yn ateb, “Mae dad wedi gwneud pethau'n anodd i bawb. Edrychwch gymaint gwell dw i'n teimlo ar ôl blasu'r mymryn bach yna o fêl! 30Petai'r dynion wedi cael bwyta'r bwyd adawodd y gelynion heddiw, bydden ni wedi lladd llawer mwy o'r Philistiaid!”

31Y diwrnod hwnnw llwyddodd y fyddin i daro'r Philistiaid yr holl ffordd o Michmas i Aialon,
14:31 Aialon Roedd Aialon bron 20 milltir i'r gorllewin o Michmas.
ond roedden nhw wedi blino'n lân.
32Felly dyma nhw'n rhuthro ar yr ysbail a chymryd defaid, gwartheg a lloi. Yna eu lladd nhw yn y fan a'r lle, a bwyta'r cig, y gwaed a'r cwbl.
14:32 y gwaed a'r cwbl Doedd pobl Israel ddim i fod i fwyta cig gyda gwaed ynddo (gw. Genesis 9:4; Lefiticus 17:11; Deuteronomium 12:23).

33Dwedodd rhywun wrth Saul fod y bobl wedi pechu yn erbyn yr Arglwydd drwy fwyta gwaed. A dyma Saul yn dweud, “Dych chi wedi bod yn anffyddlon. Rholiwch garreg fawr yma ata i. 34Yna ewch at y dynion a dweud wrthyn nhw fod rhaid i bawb ddod â'i fustach a'i ddafad i'r fan yma i'w ladd cyn ei fwyta. Dwedwch wrthyn nhw am beidio pechu yn erbyn yr Arglwydd trwy fwyta'r gwaed.”

Felly'r noson honno, dyma pawb yn mynd â'i anifail yno i'w ladd. 35A dyna sut wnaeth Saul godi allor i'r Arglwydd am y tro cyntaf.

36Dyma Saul yn dweud, “Dewch i ni fynd i lawr ar ôl y Philistiaid yn y nos, a'u taro nhw nes bydd hi'n fore. Fydd yna run ohonyn nhw ar ôl!” A dyma'r dynion yn ateb, “Beth bynnag wyt ti'n feddwl sydd orau.” Ond dyma'r offeiriad yn dweud, “Gadewch i ni ofyn i Dduw gyntaf.” 37Felly dyma Saul yn gofyn i Dduw, “Ddylwn i fynd ar ôl y Philistiaid? Wnei di adael i Israel ennill y frwydr?” Ond gafodd e ddim ateb y diwrnod hwnnw.

38Felly dyma Saul yn galw arweinwyr y fyddin ato a dweud wrthyn nhw, “Rhaid darganfod pwy sydd wedi pechu yma heddiw. 39Mor sicr â bod yr Arglwydd, achubwr Israel, yn fyw – hyd yn oed os mai fy mab i fy hun, Jonathan, ydy e – bydd rhaid iddo farw!” Ond wnaeth neb o'r milwyr ddweud gair. 40Felly dyma fe'n dweud wrth fyddin Israel, “Safwch chi i gyd yr ochr yna, a gwna i a fy mab Jonathan sefyll gyferbyn â chi.” A dyma'r dynion yn ateb, “Beth bynnag wyt ti'n feddwl sydd orau.”

41Yna dyma Saul yn gweddïo, “O Arglwydd, Duw Israel. Os mai fi neu Jonathan sydd wedi pechu, rho Wrim. Os mai un o fyddin Israel sydd wedi pechu, rho Thwmim.”
14:41 gan ddilyn y cyfieithiad Groeg – yr LXX (mae'n ymddangos fod rhai geiriau ar goll yn y testun Hebraeg).
A'r canlyniad oedd i Saul a Jonathan gael eu dangos yn euog, a bod y fyddin ddim ar fai.
42A dyma Saul yn dweud, “Tynnwch garreg i ddewis rhwng Jonathan a fi.” A cafodd Jonathan ei ddangos yn euog.

43Dyma Saul yn gofyn i Jonathan, “Dywed wrtho i be wnest ti.” A dyma Jonathan yn ateb, “Blasu mymryn o fêl ar flaen fy ffon. Dyma fi, oes rhaid i mi farw?” 44A dyma Saul yn cyhoeddi, “Ar fy llw o flaen Duw, rhaid i Jonathan farw neu bydd Duw'n ein cosbi ni'n waeth fyth.”

45Ond dyma'r milwyr yn ateb, “Pam ddylai Jonathan farw? Mae e wedi ennill buddugoliaeth fawr i Israel heddiw. Mor sicr â bod yr Arglwydd yn fyw ddylai dim byd ddigwydd iddo. Roedd e'n gweithio gyda Duw heddiw.” Felly dyma'r milwyr yn achub Jonathan, a chafodd fyw.

46Wedi hynny dyma Saul yn rhoi'r gorau i fynd ar ôl y Philistiaid, a dyma nhw'n mynd yn ôl i'w gwlad eu hunain.

Crynodeb o deyrnasiad Saul

47Pan oedd Saul yn frenin ar Israel aeth i ryfel yn erbyn y gelynion oedd o'i gwmpas i gyd: Moab, yr Ammoniaid, Edom, brenhinoedd Soba yn Syria, a'r Philistiaid. Roedd e'n ennill bob tro. 48Roedd e'n arwr. Tarodd yr Amaleciaid ac achub Israel o afael pawb oedd yn ymosod arnyn nhw.

49Enwau Meibion Saul oedd Jonathan, Ishfi
14:49-51 Ishfi Roedd hefyd yn cael ei alw yn Eshbaal (gw. 1 Cronicl 8:33; 9:39) ac Ish-bosheth (gw. 2 Samuel 2:8-13; 3:8-15; 4:5-12).
a Malci-shwa. Roedd ganddo ddwy ferch, Merab, yr hynaf a Michal yr ifancaf.
50Enw gwraig Saul oedd Achinoam (merch Achimaats). Cefnder Saul, Abner fab Ner, oedd pennaeth ei fyddin. 51(Roedd Cish tad Saul, a Ner tad Abner yn feibion i Abiel).

52Roedd yna ryfela ffyrnig yn erbyn y Philistiaid yr holl amser roedd Saul yn frenin. Felly pan fyddai Saul yn gweld unrhyw un oedd yn gryf a dewr, byddai'n ei gonscriptio i'w fyddin.

Copyright information for CYM